R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
1. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i leihau'r bwlch mewn cyrhaeddiad addysgol plant mewn ysgolion? OAQ(4)0335(ESK)
2. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses asesu ar gyfer dyslecsia ymhlith disgyblion ysgol? OAQ(4)0328(ESK)
3. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl llywodraethwyr ysgolion? OAQ(4)0342(ESK)
4. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pryd y bydd y Gweinidog yn ymweld ag un o golegau Grŵp Llandrillo Menai i drafod eu darpariaeth hyfforddi ar gyfer swyddi ym maes adeiladu a'r amgylchedd? OAQ(4)0337(ESK)W TYNNWYD YN ÔL
5. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae'r system addysg yng Nghymru yn cefnogi cyflogwyr y dyfodol? OAQ(4)0327(ESK)
6. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oblygiadau'r gyllideb ddrafft i ganolfannau Cymraeg i Oedolion? OAQ(4)0330(ESK)W
7. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith y mae cyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop wedi ei gael ar golegau addysg bellach yng Nghymru ers 1999? OAQ(4)0341(ESK)
8. Elin Jones (Ceredigion): Pa gynnydd sydd wedi ei wneud o ran cynyddu cyfleoedd i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn addysg bellach? OAQ(4)340(ESK)
9. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o ddarpariaeth prydau ysgol o safon yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0339(ESK)
10. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu addysg yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0329(ESK)
11. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yng Nghymru? OAQ(4)0332(ESK)
12. Julie James (Gorllewin Abertawe): Beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol gwael yng Ngorllewin Abertawe? OAQQ(4)0334(ESK)
13. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella adeiladau ysgolion ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0338(ESK)
14. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg? OAQ(4)0333(ESK)
15. Christine Chapman (Cwm Cynon): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu graddedigion o Gwm Cynon i ddilyn astudiaethau
ôl-raddedig? OAQ(4)0326(ESK)
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
1. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y busnesau newydd a arweinir gan fenywod yng Nghymru? OAQ(4)0318(EST)
2. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â datblygu rheilffordd HS2? OAQ(4)0317(EST)W
3. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr amserlen ar gyfer datblygu ffordd osgoi Bontnewydd a Chaernarfon? OAQ(4)0322(EST)W
4. Keith Davies (Llanelli): Beth yw cynlluniau'r Gweinidog i farchnata twristiaeth yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0326(EST)W
5. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo cwmnïau o Gymru sy'n ymwneud â datblygu ar-lein? OAQ(4)0329(EST)
6. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r hyn y mae'n ei wneud i wella twristiaeth yn Nyffryn Clwyd? OAQ(4)0321(EST)
7. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A yw'r Gweinidog neu ei swyddogion wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Banc Lloegr am fynd i'r afael ag anghydbwysedd rhanbarthol o ran adferiad economaidd? OAQ(4)0331(EST)
8. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa ddefnydd y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o fframwaith caffael Llywodraeth y DU wrth benodi cwmnïau ymchwil? OAQ(4)0332(EST)W
9. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i ddiwydiant? OAQ(4)0324(EST)
10. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pryd y bydd y Gweinidog yn cwrdd nesaf â chadeirydd Network Rail i drafod buddsoddi mewn trafnidiaeth integredig i wasanaethu etholaeth Dwyfor Meirionnydd? OAQ(4)0325(EST)W TYNNWYD YN ÔL
11. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynnydd y mae'r Gweinidog wedi ei wneud tuag at ddatblygu rhwydwaith o fanciau cymunedol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0330(EST)
12. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi Dydd Sadwrn Busnesau Bach ar 7 Rhagfyr? OAQ(4)0323(EST)
13. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dwf economaidd yng Nghymru? OAQ(4)0327(EST)
14. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei strategaeth i gefnogi’r diwydiant hedfan yng Nghymru? OAQ(4)0320(EST)
15. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer llwybrau bysiau strategol? OAQ(4)0328(EST)